Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Hydref 2022
Amser: 09.01 - 09.42
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Nododd y Llywydd, gan mai un cwestiwn yn unig a gyflwynwyd, fod y dyraniad amser ar gyfer Cwestiynau i'r Comisiwn wedi ei leihau i 10 munud.
Bydd seibiant cyn y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher er mwyn galluogi Aelodau i ymgyfarwyddo ymhellach â’r gweithdrefnau pleidleisio newydd.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 11 Hydref –
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu
Economaidd Rhanbarthol (30 munud) – symudwyd i 4
Hydref
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Tai mewn Cymunedau Cymraeg (30 munud)
Dydd Mercher 12 Hydref –
·
Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud) – gohiriwyd i 19 Hydref
· Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) – symudwyd o 19 Hydref
Dydd Mawrth 18 Hydref –
· Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (15 munud)
Dydd Mercher 19 Hydref –
·
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45
munud) - symudwyd i 12 Hydref
·
Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud)
– symudwyd o 12 Hydref
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 26 Hydref 2022 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Bil Amaethyddiaeth (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Amserlen Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd ar estyniadau byr i’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar gyfer cyfnod Ystyriaeth Gychwynnol y Bil hyd at 23 Rhagfyr 2022, a’r cyfnod Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor hyd at 10 Mawrth 2023.
4.3 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
5 Diwygio’r Senedd
5.1 Dull o ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
Trafododd y Pwyllgor Busnes ei ddull o ystyried sawl argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, gyda’r nod o ddarparu casgliadau i lywio datblygiad cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio’r Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnal gweithdy technegol gyda swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru cyn toriad hanner tymor yr hydref. Cytunodd i drafod y materion hyn a’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y slotiau cyfarfod sydd wedi’u trefnu ym mis Tachwedd. Cynhelir cyfarfodydd yn gyhoeddus lle bo hynny’n briodol.
5 Unrhyw faterion eraill
Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – amserlen
Nododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ddarparu’r wybodaeth y gofynnodd y Pwyllgor hwnnw amdani.
Amserlen y pwyllgorau – gwrthdaro amserlenni Aelodau
Fe wnaeth y Pwyllgor Busnes ddychwelyd at drafodaeth ar y mater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a godwyd gan Siân Gwenllian yn y cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y swyddogion roi gwybod am yr ymdrechion gan dimau clercio i gydlynu busnes y ddau bwyllgor hwnnw er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar yr Aelodau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â'r ymchwiliad presennol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Diolchodd Siân Gwenllian i swyddogion y ddau bwyllgor am eu hymdrechion.
Nododd y Pwyllgor Busnes nad yw'n debygol y bydd cydlynu mor agos rhwng pwyllgorau yn gynaliadwy, ac nad yw'n ateb tymor hir i'r sefyllfa.